Rydym yn eich gwahodd i roi eich barn am ein cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Coedwig Alwen. Bydd ein hymgynghoriad yn rhedeg o 13 Rhagfyr 2023 i 7 Chwefror 2024.
Mae’r cynnig ar gyfer fferm wynt hyd at naw tyrbin gydag uchder blaen y llafnau o hyd at 200m. Yn dibynnu ar y tyrbin terfynol a ddewisir, byddai’r trydan posibl a gynhyrchir yn cyfateb i anghenion hyd at 63,500* o gartrefi yn y DU.
Ers lansio ein cynigion, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned ac wedi cynnal ymgynghoriad helaeth. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriad anffurfiol ym mis Ionawr 2020. Rydym hefyd wedi cynnal asesiadau ac arolygon helaeth ar y safle, wedi cynnal trafodaethau â phartïon â diddordeb, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ac wedi casglu llawer iawn o wybodaeth werthfawr.
Rydym yn cynnal dwy arddangosfa galw heibio gyhoeddus yn ystod y cyfnod ymgynghori lle gallwch weld y dogfennau cynllunio, siarad â’r tîm a rhoi adborth:
Dydd Gwener 19 Ionawr 2024
3:30pm – 7:30pm
Ysgol Cerrigydrudion
Ffordd yr Alwen, Cerrigydrudion, Conwy, LL21 9SW
Dydd Sadwrn 20 Ionawr 2024
10:00am – 2:00pm
Tŷ Eglwys Nantglyn
Nantglyn, Dinbych LL16 5PL
Bydd y Crynodeb Annhechnegol drafft o’r Datganiad Amgylcheddol drafft hefyd ar gael i’w weld yn Nhŷ Eglwys Nantglyn, Siop Uwchaled yng Ngherrigydrudion a Llyfrgell Dinbych.
*Mae’r ynni y rhagwelir y bydd y cynnig yn ei gynhyrchu yn deillio o ddefnyddio cyflymderau gwynt a fonitrwyd yn yr ardal leol ac sy’n cyfateb i ddata tywydd hanesyddol tymor hwy gan ddefnyddio modelau meteorolegol wedi’u hadu â data a gafwyd o systemau mesur lloeren, seiliedig ar yr arwyneb a’r awyr. Mae’r cyfrifiadau yn seiliedig ar gapasiti gosodedig o 60 MW. Mae’r ffigur cartrefi cyfatebol a gyflenwir yn seiliedig ar ddefnydd trydan domestig cymedrig blynyddol o 3,472 kWh fesul cartref yng Nghymru o ystadegau diweddaraf yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (Defnydd Is-genedlaethol Trydan, Prydain Fawr, 2005-2021, trydan domestig cymedrig blynyddol). Defnydd (kWh fesul cartref) ar gyfer Cymru, 2021 (https://bit.ly/3QRaYHv) Ystadegau defnydd trydan rhanbarthol ac awdurdodau lleol (www.gov.uk) Ffigurau wedi’u talgrynnu.